Mae Is-Bwyllgor Diwylliant, Pwyllgor Dathlu Canmlwyddiant a Hanner y Cymry yn Chubut, yn gwahodd llenorion, ymchwilwyr, beirniaid a phawb yn gyffredinol i gymryd rhan yn yr Ŵyl hon fydd yn cael ei chynnal yn nhref y Gaiman ar yr 17eg a´r 18fed o Ebrill. Bydd y sesiynnau yn cael eu cynnal yn Gymraeg neu Sbaeneg. Thema´r wyl yw dylanawad y Cymry a´u disgynyddion ers 150 o flynyddoedd (1865-2015) yn yr Ariannin. Pwrpas yr wyl yw rhoi cyfle i bawb sy´n ymddiddori yng nghyfraniad y Cymry a ymsefydlodd ym Mhatagonia ers 150 o flynyddoedd. Defnyddir y Sbaeneg neu´r Gymraeg yn y trafodaethau.
Rhaid i geisiadau gael eu gwneud ar y ffurflen ar-lein, neu yn Llyfrgell "Ricardo J. Berwyn" yn stryd J.C. Evans 154 (9105), y Gaiman. Mae´r llyfrgell ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o wyth y bore tan dri y pnawn. Gellir ffonio 0280 4491212 neu ysgrifennu at bibliopopberwyn@gmail.com
150 o flynyddoedd y Cymry yn Chubut.
Derbynnir cyflwyniadau, neu weithgareddau eraill megis darlleniadau o waith llenyddol, ac ati, yn ymwneud a phresenoldeb y Cymry yn Chubut yn ystod y 150 mlynedd ddiwetha.
Derbynnir crynodebau o´r gwahanol weithgareddau tan y 13eg o Fawrth 2015. Bydd modd cofrestru tan y 4ydd o Ebrill 2015.
-
Cyflwyniadau, darlithoedd neu gynadleddau: Dylid anfon crynodeb o ddim mwy nag un (1) dudalen erbyn y 13/03/15.
-
Panel ar bwnc penodol: Gall pob un sy´n cymryd rhan siarad neu ddarllen am 10 munud.
-
Gweithdai: Bydd y cydlynwyr yn anfon cynllun gwaith lle nad oes mwy na dau (2) gyfarfod, gan nodi´r amser a´r tasgau erbyn y 13/03/15. Gall y gweithdai hyn fod wedi eu hanelu at awduron eraill, athrawon, myfyrwyr o bob lefel a'r cyhoedd yn gyffredinol.
-
Darlleniadau. Cynigir cyfle i wneud darlleniadau neu weithgareddau eraill mewn ysgolion, ysbytai, cartrefi nyrsio, mannau cyhoeddus, grwpiau, ac ati.
-
Cyfarfodydd Darllen: Caffis Llenyddol, datganiadau, ac eraill. Gall pob un sy´n cymryd rhan ddarllen dwy gerdd neu uchafswm o ddwy tudalen o naratif byr. Os bydd amser yn caniatáu, bydd ail rownd o ddarlleniadau.
-
Gwahoddir cerddorion, cantorion ay.b. i gymryd rhan hefyd.
-
Bydd caffi ar agor yn ystod y ddau ddiwrnod, y costau i´w talu gan bob unigolyn.
-
I´r rhai sy´n cymryd rhan ac yn byw´n bellach na 100 km o´r Wyl mae llety yn rhad ac am ddim yn y Gampfa yn nhref y Gaiman (20 gwely i ferched ac 20 gwely i ddynion), neu yng Nghanolfan “Arturo Roberts” ( 40 gwely) yn ystod yr Wyl. Mae´r llety ar gael o´r 16eg o Ebrill ymlaen. Mae Canolfan Arturo Roberts 5 km o´r dref. Mae´r drafnidiaeth dan ofal pawb yn unigol.
-
PRYDAU BWYD . Bydd pawb yn gyfrifol am ei fwyd ei hun. Bydd rhestr o´r llefydd bwyta a´r costau ar gael. Mae modd archebu bwyd ymlaen llaw. TEITHIO: mae pawb yn gyfrifol am ei gostau teithio ei hun.